Cyflwyniad
Diben y papur hwn yw rhoi’r diweddaraf ar waith Tasglu Maes Awyr Caerdydd. Mae’r papur yn hefyd yn rhoi’r diweddaraf ar argymhellion y Pwyllgor ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn ei adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru.
Tasglu Maes Awyr Caerdydd
Mae’n hanfodol i’n datblygiad economaidd bod gennym gysylltedd rhyngwladol cryf i mewn ac allan o Gymru, yn ogystal â chroeso da i dwristiaid. Sefydlwyd Tasglu Maes Awyr Caerdydd i ystyried yr holl feysydd lle gallwn wneud gwelliannau a helpu i hybu perfformiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu Maes Awyr Caerdydd i wireddu’i botensial fel llwyddiant modern â chysylltiadau da sydd wrth wraidd ein seilwaith cenedlaethol.
Hyd yn hyn, mae’r Tasglu wedi cwrdd ddwywaith, ac mae hysbysiadau’r cyfarfodydd hyn wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:
http://wales.gov.uk/topics/transport/public/air/?lang=cy
Ar 18 Rhagfyr, cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda TBI, perchenogion Maes Awyr Caerdydd, i fynd ati i brynu Maes Awyr Caerdydd.
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2012/cdfairport/?lang=cy
Mae’r ymarfer diwydrwydd dyladwy wrthi’n cael ei gynnal ac mae’n fater o gyfrinachedd masnachol llym. Felly ni allwn wneud sylw ar rai o argymhellion y Pwyllgor nes i’r ymarfer gael ei gwblhau.
Y diweddaraf ar argymhellion yr adroddiad ar gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru
Argymhelliad 1 – Dylai Llywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar y fframwaith hedfan a gyhoeddir cyn bo hir gan Lywodraeth y DU fel ei fod yn cydnabod potensial Maes Awyr Caerdydd wrth ymdrin ag angen y DU am gapasiti meysydd awyr a hefyd yn ateb anghenion busnesau a theithwyr Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wrthi’n dadansoddi yr ymatebion i’w hymgynghoriad a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2012. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda nhw ynghylch dylanwadu ar y fframwaith mabwysiedig terfynol.
Argymhelliad 2 – Dylai Llywodraeth Cymru lunio safbwynt clir, strategol, seiliedig ar dystiolaeth er datblygu trafnidiaeth awyr yng Nghymru, a’i seilio ar asesiad trylwyr o effaith economaidd hedfan yng Nghymru. Dylai hyn nodi ymhle mae angen gwasanaethau hedfan, pa fath o lwybrau all gefnogi datblygu economaidd cynaliadwy Cymru, a beth yw’r ffordd orau o gyflawni hyn.
Ni fyddwn yn gwneud sylw wrth i Lywodraeth Cymru gynnal ei hymarfer diwydrwydd dyladwy ynghylch y posibilrwydd o gaffael Maes Awyr Caerdydd.
Argymhelliad 3 – Dylai Llywodraeth Cymru barhau i archwilio’r achos o blaid datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yng nghyswllt y gwasanaethau hynny sy’n denu twristiaeth gynaliadwy yma a chyfleoedd i fuddsoddi mewn busnes.
Safbwynt hirdymor Llywodraeth Cymru yw y gallai’r posibilrwydd o amrywio’r Doll Teithwyr Awyr fod yn ddefnyddiol o ran gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol yn arbennig, a fel mesur ysgogi polisi i gefnogi datblygu economaidd ehangach yn gyffredinol.
Caiff y safbwynt hwn ei gefnogi’n glir gan yr ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag ymchwil a gyhoeddwyd gan HMRC ar y cyd ag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.
Ystyriodd y Comisiwn Silk y posibilrwydd o ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr yn rhan gyntaf ei adolygiad ar ddatganoli pwerau cyllidol ac atebolrwydd ariannol. Argymhelliad y Comisiwn Silk oedd y dylid datganoli’r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau hir uniongyrchol i ddechrau, gyda datganoli llawn yn bosibilrwydd yn y dyfodol.
Yn ogystal, yn ei Ddatganiad yr Hydref ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyhoeddi ymateb i Silk yng ngwanwyn 2013, a bydd yn cyfrannu at waith y Comisiwn Davies sy’n ystyried capasiti meysydd awyr yn y dyfodol yn y DU.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod argymhelliad Silk i gynnwys datganoli’r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau hir uniongyrchol yn y Bil Cyllid 2013 yn cael ei ddatblygu.
Argymhelliad 4 – Dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar reolwyr Maes Awyr Caerdydd i fuddsoddi yn ei ddatblygiad ac i ddatblygu Uwchgynllun newydd, a chomisiynu asesiad annibynnol a hyfywdra’r maes awyr i’r dyfodol i weithredu fel porth rhyngwladol i deithwyr a nwyddau.
Ni fyddwn yn gwneud sylw wrth i Lywodraeth Cymru gynnal ei hymarfer diwydrwydd dyladwy ynghylch y posibilrwydd o gaffael Maes Awyr Caerdydd.
Argymhelliad 5 – Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwell gwasanaeth bws cyflym, pwrpasol, rhwng Maes Awyr Caerdydd a chanol y ddinas, ac archwilio opsiynau i ariannu’r gwasanaeth hwnnw gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill, pe bai hyn yn cael ei gefnogi gan yr asesiad annibynnol a awgrymwyd yn Argymhelliad 4.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud gwaith manwl ar wasanaeth bws cyflym pwrpasol rhwng Maes Awyr Caerdydd a chanol y ddinas. Mae’r gwerthusiad yn parhau.
Argymhelliad 6 – Dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r achos busnes o blaid gwasanaeth trên aml, uniongyrchol i Faes Awyr Caerdydd, pe bai hyn yn cael ei gefnogi gan yr asesiad annibynnol a awgrymwyd yn Argymhelliad 4.
Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru yn ein hymrwymo i ystyried cynyddu gwasanaethau ar linell Bro Morgannwg i fod bob hanner awr, a fyddai’n dyblu nifer y gwasanaethau sy’n galw yng ngorsaf y Rhws (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd). Bydd hyn yn bosibl wedi i Network Rail gwblhau’r rhaglen Adnewyddu Signalau yn Ardal Caerdydd, y disgwylir ei chwblhau yn 2015. Yn ogystal, rydyn ni’n parhau i ariannu’r gwasanaeth bws gwennol poblogaidd rhwng Gorsaf y Rhws (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd) a’r Maes Awyr, ac mae’r gwasanaeth newydd gael ei ymestyn i Ardal Fenter Sain Tathan. Mae Network Rail bellach wedi cychwyn ar y rhaglen Adnewyddu Signalau yn Ardal Caerdydd.
Argymhelliad 7 – Dylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar bob cyfrwng posibl i ddangos i’r Comisiwn Ewropeaidd yr effaith niweidiol y gall y canllawiau Cymorth Gwladwriaethol presennol ynglŷn â hedfan ei chael, a sut y gellid defnyddio Cymorth yn wahanol i ddatblygu Maes Awyr Caerdydd fel cyrchfan sy’n cael ei ddewis gan deithwyr busnes rhyngwladol a thwristiaid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau droeon i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch cyfyngiadau’r canllawiau ar ddatblygu meysydd awyr rhanbarthol. Rydyn ni’n aros am ymateb gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Argymhelliad 8 – Dylai Llywodraeth Cymru integreiddio cysylltedd â meysydd awyr Cymru â’r polisi ar drafnidiaeth a seilwaith i Gymru gyfan, a cheisio sicrhau drwy drafodaeth fod gwell cysylltiadau trafnidiaeth trawsffiniol yn cael eu darparu a bod gwasanaethau rheilffordd, megis y rhai i Abertawe a’r Cymoedd, yn cael eu trydaneiddio.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Network Rail i gwblhau’r prosiectau trydaneiddio’r rheilffyrdd. Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi sefydlu Tasglu i gyflawni’r argymhellion ar ddatblygu trafnidiaeth integredig ar gyfer y De-ddwyrain, gan gyflwyno adroddiad erbyn 31 Mawrth.
Argymhelliad 19 – Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau yr ymdrinnir â datblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru yn gynaliadwy drwy Gynlluniau Datblygu Lleol, ac annog awdurdodau lleol i gydweithio â’i gilydd lle mae i effeithiau’r datblygiadau hynny oblygiadau rhanbarthol ehangach.
Nid oes unrhyw wybodaeth ychwanegol i’r ymateb gwreiddiol i’r adroddiad.
Crynodeb
Mae’r dystiolaeth yn y papur hwn yn amlinellu’r sefyllfa gyfredol ynghylch Maes Awyr Caerdydd a Thasglu Maes Awyr Caerdydd. Nid oes modd rhoi manylion pellach wrth i’r ymarfer diwydrwydd dyladwy gael ei gynnal.
Mae’r papur hefyd yn rhoi’r diweddaraf ar argymhellion y Pwyllgor ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn ei adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru.
Y Prif Weinidog
22 Ionawr 2013